Cynhaliwyd gweithdai yn ystod hanner tymor mis Hydref yn Oriel Davies Y Drenewydd. Bu dros 40 o bobl yn gweithio gydag Anita Jenkins ac Anita Wyatt yr artistiaid i greu cerfluniau a robotau anhygoel o sbwriel o bob math yn ogystal â lluniau ar thema natur, yn tynnu lluniau o bysgod, ieir bach yr haf a llawer mwy. Roedd y prosiect yn bosib diolch i gyllid gan gronfa SPLASH Cymru.

Pin It on Pinterest

Share This
X