Grŵp drama a chelfyddydau yw Masquerade i bobl o bob oed a gallu. Agorwyd tymor 2014 trwy ystyried chwedlau a lluniwyd chwedl newydd yn seiliedig ar goeden unig enwog Llanfyllin; wedyn cynhaliwyd gorymdaith a pherfformiadau o flaen cynulleidfaoedd o deuluoedd mewn digwyddiadau lleol megis Diwrnod Myllin Sant ac ym Mharti’r Wyrcws.

O fis Medi 2014 bu’r grŵp yn ymarfer ar gyfer y Perfformiad Nadolig, ‘Fairytale Frenzy’, a berfformiwyd ym mis Rhagfyr yn Theatr Llwyn o flaen cynulleidfa deilwng o dros 70 o bobl. Y Beltones oedd yn eu cefnogi.

Cyllidwyr y prosiect hwn oedd Sefydliad Bailey Thomas.

 

Pin It on Pinterest

Share This
X

This website uses to give you the best experience. Agree by clicking the 'Accept' button.