Pauline Bennett
Storytelling workshops or performances, fun and learning guaranteed, any age
Gweithdai neu berfformiadau dweud straeon – hwyl ac addysgol i bob oed.
VILLAGE STORYTELLERS – deuawd bywiog a difyr sy’n byw yn ardal y Gororau. Mae ganddynt dros 40 mlynedd o brofiad o ddweud straeon ar lefel broffesiynol, ac yn cynnig perfformiadau a gweithdai i bob oed – o grwpiau cyn-ysgol i bensiynwyr a phopeth yn y canol. Mae Clive Hopwood a Pauline Bennett wedi gweithio mewn ysgolion, llyfrgelloedd, orielau celf, amgueddfeydd, cestyll, gwyliau, canolfannau dydd, carchardai, cartrefi preswyl a chanolfannau cymunedol.
Gellir dewis a theilwra chwedlau o bedwar ban byd at anghenion neu themâu unigol. Mae gennym brofiad helaeth o weithio mewn ysgolion ar draws y wlad, gyda disgyblion a staff, trwy ddefnyddio straeon llafar fel sail i wella sgiliau llythrennedd, ysgrifennu creadigol, gwaith drama neu fideo. Darperir adnoddau atodol fel rhan o’n gwasanaeth.
Rydych yn sicr o gael hwyl a sbri, a chanlyniadau gweladwy. Mae wedi arfer gweithio gyda lefelau llythrennedd a gallu amrywiol gan gynnwys plant ag anghenion arbennig. Mae wedi perfformio ar raglen ddogfen Goodnight Tales Radio 4, enillydd Gwobr Brydeinig am Ragori wrth ddweud Straeon ar y Outstanding Community Project 2012.
“Unigolyn hynod broffesiynol, sy’n frwdfrydig am ei bwnc a’i allu i rymuso myfyrwyr … mae’n gallu ysgogi’r unigolion mwyaf amharod i gynhyrchu gwaith o safon.” Cydlynydd Addysg, Carchar EM WYMOTT
“Gallu anhygoel i gyflwyno straeon, a llawn ysbrydoliaeth” MIDDLEPORT INFANTS
E-bost:
clivehopwood”at”btinternet.com
Ffon: 01938 811 355
Mobile: 07930 378 110
07814 274 472
Gwefan: www.villagestorytellers.org.uk