Adnoddau i Artistiaid
Pecyn Cymorth Artistiaid
Datblygwyd y pecyn cymorth hwn trwy drafodaethau rhwng Addo a’r Dr Susan Liggett (Prifysgol Glyndŵr) ynghylch problemau datblygu prosiectau o ansawdd gydag artistiaid.
Egwyddorion Ansawdd ArtWorks Cymru
Mae Egwyddorion Ansawdd ArtWorks Cymru wedi’u grwpio yn dri maes – bwriad, gweithgaredd a phobl. Rydym wedi llunio set o offer i’ch helpu i feddwl am ansawdd yn y prosiectau neu’r rhaglenni rydych chi’n eu darparu.
Celc
Mae Celc yn helpu athrawon ac artistiaid i gydweithio i ddatblygu medrau llythrennedd a rhifedd disgyblion trwy’r celfyddydau mynegiannol. Beth bynnag yw eich arbenigedd pwnc neu’ch ffurf celf, mae’r Pecyn Cymorth hwn yn llawn syniadau ysbrydoledig, dolenni defnyddiol a chanllawiau ymarferol i gefnogi’ch dosbarth i gwrdd â gofynion y Fframwaith Llythrennedd a Rhifedd Cenedlaethol (LNF) mewn ffyrdd newydd, hwyliog ac ymgysylltiol.
Pecyn Cymorth Menter Creadigol
Dementia & Dychymyg
Nid yw’r llawlyfr hwn yn becyn offer ymarferion presgripsiwn i gyflwyno prosiectau celfyddydau gweledol, ac nid yw’n ganllaw gwerthuso. Mae hyn, o ganlyniad i brosiect ymchwil ac y bwriedir ei ddefnyddio gan artistiaid a phobl eraill sy’n bwriadu darparu gweithgareddau yn y celfyddydau gyda phobl sy’n byw gyda dementia. Mae’n gyfres o syniadau ac argymhellion defnyddiol sy’n deillio o brosiect ymchwil cadarn sy’n gosod rhai sylfeini ar gyfer datblygu prosiectau celfyddydau gweledol gyda phobl, ac ar eu cyfer, a effeithir gan ddementia.
Quest Stori
28 ffordd o droi plant yn storïwyr
Fframwaith Llythrennedd a Rhifedd Cenedlaethol
Fframwaith Cymhwysedd Digidol
Hunanasesiad ar gyfer Artistiaid yn Gweithio mewn Lleoliadau Addysgol
http://www.creativitycultureeducation.org/self-assessment-competency-framework
Gobeithiwn y bydd o werth mawr i artistiaid ac ymarferwyr creadigol ym mhob cam o’u gyrfaoedd, yn ogystal ag i athrawon a phobl eraill sy’n cydweithio â hwy, darparwyr hyfforddiant neu wneuthurwyr polisi, ac o ganlyniad i blant y mae eu datblygiad medrau creadigol yn ganolog o’r gwaith.
Self-Assessment-Competency-Framework-for-Creative-Practitioners-–-Spreadsheet







