Artist Opportunities & Jobs | Cyfleoedd Artist a Swyddi

We list our job opportunities here when they arise. If you have any problems using the online application forms, please contact Kerala, kerala@artsconnection.org.uk or 01691 648 929. She can either guide you through the process or if you are still having problems she can send you a word version application form.

Rhestrwn ein cyfleoedd gwaith yma pan fyddant yn codi. Os cewch unrhyw broblemau wrth ddefnyddio'r ffurflenni cais ar-lein, cysylltwch â Kerala, kerala@artsconnection.org.uk neu 01691 648 929. Mae ef gallu naill ai yn eich tywys trwy'r broses neu os ydych yn dal i gael problemau y gall ef anfon cais fersiwn gair yr ydych ffurflen.

Trustee

We are looking for new Trustees to join our already diverse and vibrant board. If you think you could contribute, we’d love to hear from you! | Ydym yn chwilio am Ymddiriedolwyr newydd i ymuno â’r bwrdd; mae gennym aelodau amrywiol a bywiog ar y bwrdd eisoes. Os ydych o’r farn y gallwch gyfrannu, byddem wrth ein bodd yn clywed gennych. 

Arts for Holidays - Feb 1/2 Term | Celfyddydau ar gyfer y Gwyliau - Tymor Chwefror 1/2

Through the Wardrobe: A Narnia-Inspired Family Art Adventure | Trwy’r Cwpwrdd Dillad: Antur Gelf i’r Teulu wedi’i Hysbrydoli gan Narnia

Creative Essentials | Anghenion Creaigol

Creative Essentials is a series of day long training sessions for participatory artists, exploring different skills for working with communities | Mae Hanfodion Creadigol yn gyfres o sesiynau hyfforddi undydd ar gyfer artistiaid cyfranogol, gan archwilio gwahanol sgiliau ar gyfer gweithio gyda chymunedau

Arts for Holidays - Easter | Celfyddydau ar gyfer y Gwyliau - Pasg

Game on! is a series of family workshops celebrating play in all its forms | Mae Gêm ymlaen! yn gyfres o weithdai i’r teulu sy’n dathlu chwarae ym mhob ffurf

Creative Essentials | Anghenion Creaigol

Creative Essentials is a series of day long training sessions for participatory artists, exploring different skills for working with communities. The sessions will take place on Saturdays between January and March 2027 in Welshpool. 

We’re looking for artists to deliver one or more of the training days: Workshop & Facilitation Skills, Mental Health Awareness, or Welsh Language. Welsh language skills are desirable, but essential for the Welsh Language day. 

Mae Hanfodion Creadigol yn gyfres o sesiynau hyfforddi undydd ar gyfer artistiaid cyfranogol, gan archwilio gwahanol sgiliau ar gyfer gweithio gyda chymunedau. Cynhelir y sesiynau ar ddydd Sadwrn rhwng Ionawr a Mawrth 2027 yn y Trallwng. 

Rydym yn chwilio am artistiaid i gyflwyno un neu fwy o’r diwrnodau hyfforddi: Sgiliau Gweithdy a Hwyluso, Ymwybyddiaeth o Iechyd Meddwl, neu’r Gymraeg. Mae sgiliau Cymraeg yn ddymunol, ond yn hanfodol ar gyfer y diwrnod Cymraeg. 

👥Target Group | Grŵp Targed: Participatory Artists| Artistiaid Cyfranogol

Venue and Timescale | Lleoliad a Amser: 📍 TBC – Welshpool | Y Trallwng

🗓️ Jan| Ion – March| Mawrth 27

⏱️Deadline | Dyddiad Cau: 12pm, Monday 23 November 2026 | 12pm, Dydd Llun 23 Tachwedd 2026

Arts for Holidays - Feb 1/2 Term | Celfyddydau ar gyfer y Gwyliau - Tymor Chwefror 1/2

Step into a magical world inspired by The Chronicles of Narnia! Working together, families will create 3D collaborative dens, enchanted doorways and cosy nooks, alongside large-scale artworks inspired by magical forests, mythical creatures and winter wonderlands. This is a playful, imaginative workshop exploring storytelling, construction and creativity for all ages. To take place with 2 artists in Llanfyllin, Machynlleth and Berriew. 

Camwch i fyd hudolus sydd wedi’i ysbrydoli gan Gronicl Narnia! Gan weithio gyda’i gilydd, bydd teuluoedd yn creu cuddfannau cydweithredol 3D, drysau hudolus a chilfachau clyd, ochr yn ochr â gweithiau celf ar raddfa fawr wedi’u hysbrydoli gan goedwigoedd hudol, creaduriaid chwedlonol a gwlad hud y gaeaf. Gweithdy chwareus a llawn dychymyg sy’n archwilio adrodd straeon, adeiladu a chreadigrwydd i bob oed. I'w gynnal gyda 2 artist yn Llanfyllin, Machynlleth ac Aberriw.

👥Target Group | Grŵp Targed:Families | Teuluoedd

Venue and Timescale | Lleoliad a Amser: 📍 TBC – Llanfyllin, Machynlleth, Berriew 

🗓️ Feb Half Term 2027 | Hanner Tymor Chwefror 2027

⏱️Deadline | Dyddiad Cau: 12pm, Monday 23 November 2026 | 12pm, Dydd Llun 23 Tachwedd 2026

Arts for Holidays - Easter | Celfyddydau ar gyfer y Gwyliau - Pasg

Game on! is a series of family workshops celebrating play in all its forms, from the digital worlds of popular video games to traditional games made by hand. Families will come together to make, play and explore their imaginations in Llanfyllin.

  • One creative family workshop inspired by popular video games like Minecraft
  • One family workshop creating traditional games using natural materials

Mae Gêm ymlaen! yn gyfres o weithdai i’r teulu sy’n dathlu chwarae ym mhob ffurf, o fydoedd digidol gemau fideo poblogaidd i gemau traddodiadol wedi’u gwneud â llaw. Bydd teuluoedd yn dod at ei gilydd i greu, chwarae ac archwilio eu dychymyg.

  • Un gweithdy creadigol i’r teulu wedi’i ysbrydoli gan gemau fideo poblogaidd fel Minecraft
  • Un gweithdy i’r teulu i greu gemau traddodiadol gan ddefnyddio deunyddiau naturiol

👥Target Group | Grŵp Targed:Families | Teuluoedd

Venue and Timescale | Lleoliad a Amser: 📍 TBC – Llanfyllin

🗓️ Easter Holidays 2027 | Gwyliau'r Pasg 2027

⏱️Deadline | Dyddiad Cau: 12pm, Monday 23 November 2026 | 12pm, Dydd Llun 23 Tachwedd 2026

Trustee

looking for something creative, inspiring and worthwhile?

awydd gwneud rhywbeth creadigol, ysbrydol a gwerth chweil?

Arts Connection – Cyswllt Celf is an independent participatory arts charity based in Llanfyllin. We provide high quality participatory arts projects in various artistic mediums across Powys, Wrexham and the borders. Our work with schools, children, youth, people with learning disabilities and wider community offers a welcoming bilingual doorway into the arts.

We are looking for new Trustees to join our already diverse and vibrant board. If you think you could contribute, we’d love to hear from you!

We encourage applications from anyone over 18!

Elusen sy’n gweithio ym maes celfyddydau cyfranogol yw Arts Connection - Cyswllt Celf, wedi’i lleoli yn Llanfyllin. Rydym yn darparu prosiectau celfyddydau cyfranogol o ansawdd uchel mewn amrywiol gyfryngau artistig ar draws Powys, Wrecsam a’r gororau. Trwy ein gwaith gydag ysgolion, plant, pobl ifanc, pobl ag anableddau dysgu a’r gymuned cynigir cyfle croesawgar i’r celfyddydau, trwy ddarpariaeth ddwyieithog.

Rydym yn chwilio am Ymddiriedolwyr newydd i ymuno â’r bwrdd; mae gennym aelodau amrywiol a bywiog ar y bwrdd eisoes. Os ydych o’r farn y gallwch gyfrannu, byddem wrth ein bodd yn clywed gennych.

Byddem yn annog unrhyw un dros 18 oed i ymgeisio.