Adventures in Nature aimed to support the conservation of local biodiversity in the Welshpool area. We delivered a series of workshops, events and training sessions from March 2020 – March 2022. The project was funded by the Landfill Disposal Tax Communities Scheme.
We explored the impact that pollution, climate change, species and habitat loss has on the health and wellbeing of our local eco systems and ourselves. The project supported participants to develop a range of skills and learn about local wildlife while enhancing their natural environment and supporting it to thrive. The project looked to increase public understanding and enjoyment of biodiversity and inspire and enthuse people of all ages. We did this through themed sessions:
- Earth – focused on soil and plant biodiversity
- Water – focused on the biodiversity of the canal and rivers that run through Welshpool and look at how we reduce our water usage and take care to not pollute our waters
- Air – focused on the importance of bugs and birds and how we can help them to thrive and their importance to our ecosystem
- Fire – focused on trees and creating dens and fires safely while exploring the importance of trees for nesting birds and other animals
Nod Anturiaethau mewn Natur oedd cefnogi cadwraeth bioamrywiaeth leol yn ardal y Trallwng. Fe wnaethon ni gyflwyno cyfres o weithdai, digwyddiadau a sesiynau hyfforddi o fis Mawrth 2020 i fis Mawrth 2022. Ariannwyd y prosiect gan Gynllun Cymunedau Treth Gwaredu Tirlenwi.
Archwiliwyd yr effaith y mae llygredd, newid hinsawdd, colli rhywogaethau a chynefinoedd yn ei chael ar iechyd a lles ein hecosystemau lleol a ni ein hunain. Cefnogodd y prosiect gyfranogwyr i ddatblygu ystod o sgiliau a dysgu am fywyd gwyllt lleol wrth wella eu hamgylchedd naturiol a’i gefnogi i ffynnu. Nod y prosiect oedd cynyddu dealltwriaeth a mwynhad y cyhoedd o fioamrywiaeth ac ysbrydoli ac ennyn brwdfrydedd pobl o bob oed. Gwnaethom hyn drwy sesiynau thema:
- Y Ddaear – yn canolbwyntio ar fioamrywiaeth pridd a phlanhigion
- Dŵr – yn canolbwyntio ar fioamrywiaeth y gamlas a’r afonydd sy’n rhedeg drwy’r Trallwng ac yn edrych ar sut rydym yn lleihau ein defnydd o ddŵr ac yn gofalu i beidio â llygru ein dyfroedd
- Aer – yn canolbwyntio ar bwysigrwydd pryfed ac adar a sut y gallwn eu helpu i ffynnu a’u pwysigrwydd i’n hecosystem
- Tân – yn canolbwyntio ar goed a chreu llochesi a thanau’n ddiogel wrth archwilio pwysigrwydd coed ar gyfer adar sy’n nythu ac anifeiliaid eraill





















































































































