Y Gronfa Hyfforddi Artistiaid
Rhaid i chi fod yn aelod o artistiaid i wneud cais am y gronfa hyfforddi artistiaid. Gallwch ymuno trwy glicio yma.CRONFA HYFFORDDI ARTISTIAID – CANLLAWIAU
Mae Cyswllt Celf yn cynnig cyfleoedd hyfforddi trwy’r Gronfa Hyfforddi Artistiaid i artistiaid sy’n aelodau’r sefydliad sy’n gysylltiedig â meysydd ymarfer ym maes celfyddydau cymunedol. Y Bwrdd Ymddiriedolwyr sy’n asesu bob cais o safbwynt sut mae’n gysylltiedig ag ehangu arferion celf cymunedol, twf a datblygiad personol, sgiliau trawsnewidiol a pherthnasedd.
Canllawiau
- Ar gyfer ceisiadau o hyd at £250 cynigir 100% tuag at y costau hyfforddi – gall hyn gynnwys costau teithio a llety rhesymol. Bydd angen rhoi manylion llawn y costau hyn. Ar gyfer ceisiadau dros £250 cynigir rhwng 100 – 50% ar raddfa symudol hyd at £1,000
- Gallwn gynnig cymorth tuag at gostau teithio a llety. Yr Ymddiriedolwyr fydd yn penderfynu ar hyn. Gofalwch gynnwys y costau hyn ar wahân i gostau’r cwrs.
- Bydd yn rhaid i bob ymgeisydd llwyddiannus ddangos ei fod yn barod i rannu’r profiad/cymwysterau a enillwyd gyda’r gymuned, h.y. trwy gynnal gweithdy neu gyflwyniad (os yn berthnasol)
- Does dim dyddiad cau i dderbyn ceisiadau
- Gall aelodau gyflwyno un cais ym mhob blwyddyn ariannol (Ebrill – Mawrth)
- Byddwn yn ystyried sut gall yr hyfforddiant gefnogi ein 4 rhaglen greadigol:
- Celf i Bawb – Seilir y gwaith yma mewn ardal ddaearyddol benodol neu gyda chymuned neu grŵp penodol. Ar hyn o bryd teuluoedd a phobl hŷn yw ffocws ein gwaith. Gall hyn amrywio o ŵyl i weithdy unigol. Mae’n cynnwys gorymdeithiau, gwyliau, prosiectau pontio rhwng cenedlaethau, gweithdai mynediad agored, a digwyddiadau a chelf gyhoeddus.
- Dysgu trwy Gelf – Prosiectau Celf ar gyfer plant a phobl ifanc 0 – 25 oed. Mae’n cynnwys gwaith gydag ysgolion, y gwasanaeth ieuenctid a sefydliadau eraill sy’n gweithio gyda phlant a phobl ifanc.
- Celfyddyd Lles – Gwaith celf sy’n canolbwyntio ar themâu iechyd penodol. Mae’n cynnwys gweithio gyda’r anabl, unigolion ag anableddau dysgu, pobl sydd â phroblemau iechyd corfforol a phroblemau iechyd meddwl. Gellir lleoli’r math yma o waith mewn lleoliadau gofal, ysbytai a gyda grwpiau cymunedol.
- Gwyllt am Gelf – Prosiectau celf sy’n canolbwyntio ar yr amgylchedd. Mae’n cynnwys gwaith ym maes cynaladwyedd, yr amgylchedd ac ailgylchu, ysgolion y goedwig a chwarae awyr agored.
Sut i wneud Cais
- Dylid llenwi’r ffurflen gais am gyllid hyfforddi, gan gynnwys cymaint o wybodaeth ag sy’n bosib
- Dylid cynnwys eich CV (gall staff eich helpu i lunio CV os oes angen)
Telerau ac Amodau
- Os bydd cais yn llwyddiannus, bydd Cyswllt Celf yn cysylltu â chi cyn gynted â phosib i drefnu’r taliad. Fel arfer telir gyda siec, naill ai i chi’ch hunan neu drefnwyr y cwrs
- Nid yw Cyswllt Celf yn derbyn unrhyw gyfrifoldeb os caiff cwrs ei ganslo neu yn achos unrhyw amgylchiadau anrhagweladwy eraill sy’n golygu nad ydych yn gallu mynd ar y cwrs
- Ni fydd Cyswllt Celf yn gyfrifol am unrhyw ffioedd yn sgil canslo cwrs, neu unrhyw daliadau ychwanegol sy’n deillio o ganslo’r cwrs
- Os caiff cwrs ei ganslo, mae’n rhaid ad-dalu’r grant a ddyrannwyd i Gyswllt Celf o fewn 21 diwrnod i ganslo’r cwrs
- Bydd gofyn i chi rannu / cyfleu’r hyn a ddysgwyd ar y cwrs gydag aelodau eraill neu’r gymuned, deallwn na fydd hyn yn bosib ym mhob achos
- Bydd gofyn i chi ysgrifennu adroddiad byr (200 – 400 gair) ar y cwrs; dylid cynnwys llun/lluniau os yn bosib ar ôl ichi orffen y cwrs; dylid anfon yr adroddiad yma i Gyswllt Celf o fewn 21 diwrnod
- Ni chaniateir defnyddio’r grant i dalu unrhyw gostau cynnal sy’n digwydd yn ystod y cwrs
- Mae’n rhaid ad-dalu unrhyw ran o’r grant sydd heb ei defnyddio i Gyswllt Celf o fewn  21 diwrnod i orffen y cwrs
- Os bydd unrhyw broblemau’n dod i’r amlwg, mae’n rhaid hysbysu Cyswllt Celf ar unwaith ynghylch unrhyw newidiadau.