Polisi Arfer Codi Arian

Ein Hagwedd

Rydym wedi cofrestru gyda’r Rheolydd Codi Arian ac rydym yn gweithio mewn ffordd sy’n cydymffurfio â’r Cod Arfer Codi Arian. Rydym hefyd wedi cofrestru gyda’r Addewid Codi Arian sy’n golygu ein bod wedi ymrwymo i sicrhau fod ein dulliau codi arian yn gyfreithiol, agored, onest a llawn parch.

 

Rydym yn codi 1% o’n hincwm trwy godi arian.

 

Nid ydym wedi derbyn unrhyw gwynion am ein gweithgareddau codi arian.

Ein Dulliau Codi Arian

Nid ydym yn defnyddio asiantaethau codi arian, nac unigolion ar y stryd i godi arian, ac nid ydym yn defnyddio rhaglenni codi arian dros y ffôn.

 

Y tîm staff sy’n cyflawni’n gweithgareddau codi arian, ac maent yn codi arian trwy’r dulliau canlynol:

  • Bwced ar gyfer rhoddion mewn prosiectau a digwyddiadau – trwy adael arwydd ar y bwced yn gofyn i bobl gyfrannu
  • Ar-lein:
    • LocalGiving – trwy gyfryngau cymdeithasol ac ebost
    • Amazon Smile - gwneir rhodd fach trwy Amazon os bydd pobl yn dewis ein cefnogi
    • Easy Fundraising – rhodd fach trwy’r siop ar-lein os bydd pobl yn dewis ein cefnogi
    • Paypal Giving Fund – gall pobl ddewis gyfrannu trwy ddefnyddio Paypal i dalu

Pobl Agored i Niwed

Os oes gennym achos i gredu fod unigolyn yn agored i niwed, gyda diffyg galluedd o ran gwneud penderfyniadau mewn perthynas â rhoddion ariannol, ni fyddwn yn derbyn ei gyfraniad.

 

Os, ar ôl derbyn cyfraniad, rydym yn derbyn tystiolaeth fod yr unigolyn dan sylw mewn sefyllfa agored i niwed, gyda diffyg galluedd o ran gwneud penderfyniad i gyfrannu, bydd yr elusen yn ad-dalu’r rhodd, oherwydd byddwn yn tybio nad oedd y rhodd wreiddiol yn ddilys.

Cwynion

Os ydych yn anfodlon gydag unrhyw beth a wnaethpwyd gennym wrth godi arian, gallwch ein hysbysu am hyn trwy ddefnyddio’r Gweithdrefnau Cwyno. Byddwn yn gwrando ar adborth ac yn ymateb mewn ffordd briodol i unrhyw ganmoliaeth neu feirniadaeth a dderbynnir.

 

Os nad ydych yn gallu datrys y pryderon hyn, gallwch gysylltu â’r Rheolydd Codi Arian  yn uniongyrchol.