Polisi Preifatwydd

Mae’r polisi preifatrwydd hwn yn olrhain sut mae Cyswllt Celf yn defnyddio ac yn diogelu unrhyw wybodaeth a roddir gennych wrth ddefnyddio’r wefan hon, wrth ryngweithio gyda ni, a thrwy brynu neu ddefnyddio ein nwyddau a’n gwasanaethau. Rydym wedi ymrwymo i sicrhau y diogelir eich preifatrwydd.

 

Lluniwyd y polisi hwn yn unol â Deddf Diogelu Data 2018, sef ffordd y DU o weithredu Rheoliad Cyffredinol ar gyfer Diogelu Data (GDPR y DU) a fersiwn cyfraith yr UE o ran Rheoliadau Cyffredinol ar gyfer Diogelu Data ((EU)2016/679).

 

Hwyrach y byddwn yn newid y polisi hwn o dro i dro, a dylech ei ail-ddarllen yn achlysurol i sicrhau eich bod yn hapus gydag unrhyw newidiadau.

 

Yr hyn a gesglir

Hwyrach y byddwn yn casglu’r wybodaeth ganlynol:

Pwrpas Data Sail
Holi am ein sefydliad a’n gwaith – ebost / ffôn / gwefan / ffurflen ar-lein     Enw

Swydd

Manylion cyswllt (ebost, ffôn, cyfeiriad)

Manylion Iaith

Dyddiad cysylltu â ni

Gwybodaeth arall sy’n berthnasol i’r ymholiad

Buddion dilys – mae’n angenrheidiol inni ddarllen a chadw eich neges er mwyn gallu ymateb ichi yn y ffordd y byddech yn disgwyl
Tanysgrifio i gylchlythyr     Enw

Manylion cyswllt (ebost, ffôn, cyfeiriad)

Caniatâd - rydych wedi rhoi eich caniatâd
Gwneud cyfraniad ariannol     Enw

Swydd

Manylion cyswllt (ebost, ffôn, cyfeiriad)

Manylion Iaith

Gwybodaeth arall sy’n berthnasol i’r rhodd

Buddion dilys - mae’r wybodaeth yma’n angenrheidiol er mwyn bodloni eich bwriad o roi arian a’r disgwyliad y byddwch yn derbyn neges i gadarnhau hyn
Cofrestru fel aelod     Enw

Swydd

Manylion cyswllt (ebost, ffôn, cyfeiriad)

Manylion Iaith

Dyddiad ymaelodi neu gysylltu â ni

Gwybodaeth arall, sy’n berthnasol i fod yn aelod

Contract – trwy dalu eich ffioedd aelodaeth, mae gennych berthynas gytundebol gyda ni
Cofrestru ar gyfer gweithgareddau     Enw

Manylion cyswllt (ebost, ffôn, cyfeiriad)

Manylion Iaith

Gwybodaeth arall sy’n berthnasol i’r prosiect

Caniatâd - rydych wedi rhoi caniatâd inni a Buddion Dilys - mae’n angenrheidiol inni ddarllen a chadw eich neges er mwyn inni ymateb ichi yn y ffordd y byddech yn disgwyl
Gweithwyr llawrydd sy’n gweithio inni     Enw

Swydd

Manylion cyswllt (ebost, ffôn, cyfeiriad)

Manylion Iaith

Gwybodaeth arall sy’n berthnasol i’r gweithgaredd

Cyfeirnod DBS a’r dyddiad cyhoeddi

Hyfforddiant a fynychwyd

Manylion y cyfrif banc – cedwir y rhain yn ddiogel ar ein porth Bancio Busnes Ar-lein gyda’r Co-operative er mwyn gallu eich talu’n rhwydd

Gwybodaeth ar eich anfoneb (Cedwir yn ddiogel am 7 mlynedd - yn unol â gofynion cadw cyfrifon cyfreithiol)

Contract – rydych yn llofnodi contract wrth weithio gyda ni a

Buddion dilys - rhwymedigaeth i gasglu a chadw data penodol ar ffeil, sy’n cynnwys y manylion canlynol:

Eich enw

Eich cyfeiriad

Eich rhif YG

 

Ymgeiswyr – llawrydd a staff     Manylion eich cymwysterau, sgiliau, profiad a hanes gwaith

Geirdaon

CV

Buddion dilys -

Mae’r wybodaeth yma’n angenrheidiol ar gyfer eich cais

Ymarferoldeb y WefanGweithgaredd ar y wefan a gesglir trwy gwcisBuddion dilys

- mae’n angenrheidiol inni gadw rhywfaint o wybodaeth,  fel arfer trwy gwcis, i sicrhau ymarferoldeb y byddech yn disgwyl

Gwybodaeth am Blant

Ni anelir y wefan hon o reidrwydd at blant (unrhyw un dan 16 oed) ond hwyrach y byddwch yn casglu manylion eu henw ac oedran ar gyfer gweithgareddau a digwyddiadau a drefnir gennym. O dro i dro, hwyrach y byddwn yn gofyn am wybodaeth bersonol arall, megis hanes meddygol plentyn neu ddyddiad geni, fodd bynnag, byddwn yn gofyn i riant ddatgelu hyn, ac mae’n rhan o rwymedigaeth gyfreithiol er mwyn i blant allu cymryd rhan mewn gweithgareddau penodol heb bresenoldeb oedolyn i’w oruchwylio.

 

Os ydych yn blentyn (dan 16) ac rydych am gofrestru gyda ni ar gyfer gweithgaredd / digwyddiad, mae’n rhaid ichi ofyn i riant neu warcheidwad ddarparu caniatâd ichi gofrestru, cadarnhau bod gennych ganiatâd i gofrestru a darparu cyfeiriad ebost (os ydych yn cofrestru ar gyfer gwasanaeth trwy eich cyfrifiadur) ar gyfer y rhiant neu warcheidwad. Hwyrach y byddwn yn cysylltu â rhiant neu warcheidwad i gadarnhau y rhoddwyd caniatâd.

Sut rydym yn defnyddio eich Data

Gwybodaeth a roddir inni gennych.  Byddwn yn defnyddio’r wybodaeth yma er enghraifft i:

  • Anfon negeseuon ebost o dro i dro am ein gweithgareddau fydd o ddiddordeb ichi efallai
  • Darparu gwybodaeth ichi am ein gwaith
  • Gwella ein rhaglenni, gwasanaethau a gweithgareddau
  • Prosesu cais am swydd
  • Ymateb i ymholiadau a anfonir atom gennych
  • Delio gyda rhoddion a thrafodion eraill rydych yn eu cychwyn

 

Gwybodaeth rydym yn ei chasglu amdanoch chi.  Byddwn yn defnyddio’r wybodaeth yma i:

  • Weinyddu ein gwefan ac at ddibenion dadansoddi data
  • Gwella ein gwasanaethau

Sut rydym yn defnyddio Cwcis

Mae ein gwefan yn defnyddio cwcis i wahaniaethau rhyngoch chi a defnyddwyr eraill ar ein gwefan. Wrth ichi gytuno i dderbyn cwcis adeg eich ymweliad cyntaf â’n gwefan mae’n golygu y bydd y cwcis yn rhedeg bob tro rydych yn ymweld â’r wefan. Os ydych yn dymuno dileu neu beidio â defnyddio cwcis o’n gwefan, gellir dysgu sut i wneud hyn drwy ddarllen ein Polisi Cwcis, er hynny, trwy wneud hyn ni fydd ein gwefan yn gweithio fel y byddech yn disgwyl. Cymerwch gip ar ein Polisi Cwcis am fwy o wybodaeth.

Dolenni at Wefannau eraill

Hwyrach y bydd ein gwefan yn cynnwys dolenni at wefannau eraill sydd o ddiddordeb efallai. Er hynny, ar ôl ichi ddefnyddio’r dolenni hyn i adael ein gwefan, noder nad oes gennym unrhyw reolaeth dros y wefan arall. Felly, ni fedrwn fod yn gyfrifol am ddiogelwch a phreifatrwydd unrhyw wybodaeth a ddarperir gennych wrth ymweld â gwefannau felly oherwydd nid yw’r polisi preifatrwydd hwn yn rheoli’r gwefannau eraill hyn. Wrth adael ein gwefan, byddem yn eich annog i ddarllen polisi preifatrwydd unrhyw wefannau rydych yn ymweld â nhw.

Cadw Data a Diogelwch

Rydym wedi ymrwymo i sicrhau fod eich gwybodaeth yn ddiogel.  Er mwyn atal mynediad neu ddatgeliad anawdurdodedig, mae gennym weithdrefnau corfforol, electronig a rheolaethol addas i ddiogelu’r wybodaeth a gesglir ar-lein. Rydym yn gwirio fod y gwasanaethau a ddefnyddir i gadw gwybodaeth yn cydymffurfio â GDPR. Rydym yn cadw eich data ar gyfrifiaduron a basau data gyda chyfrineiriau diogelwch. Cedwir copïau papur dan glo yn ein swyddfa.

Cedwir eich data mewn un neu bob un o’r llefydd canlynol, yn dibynnu ar natur y data a ddarperir:

  • Ar-lein (WordPress / Mailchimp / Google Forms / Zoom)
  • Ar fas data fel rhan o’n system TG (gan gynnwys ebost)
  • Ar bapur
Am ba hyd fyddwn ni’n cadw eich gwybodaeth
Rydym o ddifrif ynghylch egwyddorion lleihau a dileu data a byddwn yn sicrhau ein bod ond yn gofyn am y lleiafswm data sydd ei angen ar gyfer y diben dan sylw, a’n bod yn ei ddileu’n brydlon unwaith nad oes ei angen bellach. Dyma rai enghreifftiau o’r hyd y byddwn yn cadw eich data:

  • Aelodau a Gweithgareddau – byddwn yn cadw’ch data heb fod yn hirach na 3 blynedd o’r tro diwethaf ichi gyflenwi gwasanaeth inni
  • Cylchlythyrau – gallwch datdanysgrifio ar unrhyw adeg
  • Ceisiadau - byddwn yn cadw’ch manylion heb fod yn hirach nag un flwyddyn

 

Os hoffech inni ddileu eich manylion cyn hynny, gofynnir ichi gysylltu â ni os gwelwch yn dda.

Rhannu eich Data

Ni fyddwn byth yn trosglwyddo eich data i drydydd parti, oni bai ichi roi caniatâd penodol inni wneud hynny. Er enghraifft, i artistiaid eraill neu i ysgol lle rydych yn gweithio efallai.  Ni fyddwn yn gwerthu, dosbarthu na phrydlesu eich gwybodaeth bersonol i drydydd parti, oni bai bod gofyn cyfreithiol inni wneud hynny.

Eich Hawliau

Mae gennych hawl i gael mynediad at eich gwybodaeth bersonol, i wrthwynebu prosesu eich gwybodaeth bersonol, i gywiro, dileu, cyfyngu neu gludo eich gwybodaeth bersonol.

 

Gallwch ofyn am wybodaeth gennym o ran pa wybodaeth sydd gennym amdanoch ar unrhyw adeg, yn rhad ac am ddim.  Byddwn yn ymateb o fewn 1 mis.

Unrhyw ymholiadau
Siân Walters – Rheolwr Celf – sian@artsconnection.org.uk - 01691 648 929

 

Sut i gwyno

Os nad ydych yn fodlon, mae gennych hawl i wneud cais i’r Comisiynydd Gwybodaeth am benderfyniad. Gellir cysylltu â’r Comisiynydd Gwybodaeth trwy ymweld â – www.ico.org.uk